Senedd Cymru 
 Ymchwil y Senedd
  
 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
 Crynodeb o’r Bil
 Medi 2022
  

 

 

 

 

 


Defnyddiwch y dudalen hon i roi cyflwyniad byr iawn i'r ddogfen hon, neu grynodeb ohoni.

 

Cynnwys

1.         Cyflwyniad.. 4

2.        Cefndir. 6

2.1 Hyd a lled y mater. 6

2.2 Polisi Llywodraeth Cymru.. 6

2.3 Gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru.. 7

2.4 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.. 7

2.5 Dulliau gweithredu a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU.. 8

Lloegr. 8

Yr Alban.. 9

Gogledd Iwerddon.. 9

2.6 Goblygiadau Deddf y Farchnad Fewnol 9

3.        Diben y Bil a’r effaith y bwriadwyd iddo’i chael 11

4.        Crynodeb o brif ddarpariaethau'r Bil 13

4.1 Gwahardd cyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro.. 13

4.2 Trosedd.. 17

4.3 Gorfodaeth.. 17

4.4 Cyffredinol 19

4.5 Atodlen.. 19

5.        Barn rhanddeiliaid.. 21

5.1 Trosolwg.. 21

Gwellt. 21

Cynhwysyddion bwyd a chwpanau polystyren ymledol ac allwthiol 21

Platiau a chytleri 22

Cynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy.. 22

5.2 Cydbwysedd rhwng manteision ac effeithiau cymdeithasol/amgylcheddol 22

5.3 Manteision ac effeithiau ar fusnesau.. 23

5.4 Cynnwys plastigau ocso-ddiraddiadwy.. 23

5.5 Esemptiadau.. 23

5.6 Amserlenni ar gyfer gweithredu.. 24

5.7 Sancsiynau sifil 24

5.8 Camau gorfodi gan awdurdodau lleol 24

5.9 Cynnwys weips. 24

5.10 Eitemau eraill i'w cynnwys. 25

5.11 Y Gymraeg.. 25

5.12 Materion ychwanegol 25

6.        Asesiad Effaith Rheoleiddiol 27

6.1 Cost gweinyddu.. 27

6.2 Arbedion costau.. 27

6.3 Costau cydymffurfio.. 27

6.4 Costau eraill 28

6.5 Costau ac anfanteision na chyfrifwyd.. 28

6.6 Manteision.. 28

6.7 Costau economaidd a busnes. 29

6.8 Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol 29

6.9 Adolygiad ôl-weithredu.. 29

 

 

1.            Cyflwyniad

Ar 20 Medi 2022, cyflwynodd yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil – y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AC ('y Gweinidog’) – Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro)(Cymru) ('y Bil') i'r Senedd.

Bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys cyflenwi’n rhad ac am ddim) cynhyrchion plastig untro penodol – sydd wedi’u taflu’n gyffredin fel sbwriel, ac a restrir yn yr atodlen yn y Bil – i ddefnyddiwr yng Nghymru.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion i wahardd naw o gynhyrchion plastig untro rhwng 30 Gorffennaf a 20 Hydref 2020. Cyhoeddwyd y crynodeb o ymatebion ym mis Awst 2022.

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf 2022, amlinellodd y Prif Weinidog fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil yn gynnar yn nhymor yr hydref. Dywedodd:

Fe fydd hynny'n bodloni ein hymrwymiad allweddol ni yn y rhaglen lywodraethu yn y maes hwn. Ond, yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil hefyd yn cefnogi ein her gyfreithiol barhaus ni i Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020. Yn yr ymgyfreitha presennol, a gyflwynwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, mae'r llys wedi nodi y byddai hi'n ddefnyddiol ystyried enghraifft ymarferol, ar ffurf darn o ddeddfwriaeth yn y Senedd, y gellir ei defnyddio i roi prawf ar y materion dan sylw. Bydd y Bil hwn yn rhoi'r enghraifft ymarferol honno, ac yn y cyd-destun hwnnw fe fyddwn ni'n ceisio cytundeb y Pwyllgor Busnes i hwyluso'r gwaith o graffu ar y Senedd o ran y Bil hwn.

Ni fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar Fil drafft. Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil yn nodi bod darpariaethau sydd wedi’u cynnwys ynddo yn cyd-fynd ag egwyddorion a nodwyd yn ymgynghoriad Gorffennaf 2020. Mae’r cynigion penodol wedi’u hymestyn a’u mireinio, yn enwedig cynnwys caeadau polystyren ar gyfer cwpanau (yn hytrach na chaeadau ar gyfer polystyren yn unig) ac ychwanegu bagiau siopa plastig untro.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y newidiadau hyn wedi'u rhannu â rhanddeiliaid a grwpiau perthnasol i roi mewnbwn. O ystyried nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad a’r amserlenni ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth, roedd Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn fwy priodol ac effeithlon i ddefnyddio’r dull hwn, yn hytrach na chyhoeddi bil drafft ar gyfer ymgynghoriad llawn.

Mae’r papur briffio hwn yn amlinellu’r effaith y bwriedir i’r Bil ei chael a chrynodeb o’i ddarpariaethau. At hynny, mae’n cynnwys safbwyntiau rhanddeiliaid o'r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad.

2.         Cefndir

2.1 Hyd a lled y mater

O'r pum miliwn tunnell o blastig yr amcangyfrifir sy’n cael ei ddefnyddio bob blwyddyn, bydd tri chwarter ohono’n mynd yn wastraff. Mae dwy filiwn o dunelli o hynny’n ddeunydd pacio plastig, gan gynnwys bron i wyth biliwn o boteli plastig untro .

Eitemau plastig untro yw'r brif ffynhonnell  o sbwriel yn ein cefnforoedd, ac mae’n anafu ac yn lladd pysgod, adar y môr a mamaliaid morol.

Mae astudiaethau yng Nghymru yn awgrymu bod sbwriel plastig untro yn gyffredin yn ein hamgylchedd lleol. Canfu dadansoddiad cyfansoddiadol diweddar Llywodraeth Cymru o sbwriel fod eitemau plastig mewn 40% (yn ôl cyfrif eitemau) o gyfanswm y sampl a ddadansoddwyd. Mae arolygon glanweithdra traethau a strydoedd Cymru wedi cadarnhau presenoldeb llawer o'r eitemau a ganfuwyd yn sgil ymchwil gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2018. Daeth Cadwch Gymru'n Daclus o hyd i sbwriel cludfwyd ar 20% o strydoedd Cymru a fu’n destun arolwg , a 75% o'r holl sbwriel a gasglwyd yn ystod ymarfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol, 2021 Great British Beach Clean, oedd plastig neu bolystyren. 

2.2 Polisi Llywodraeth Cymru

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun economi gylchol, mwy nag ailgylchu. Mae hyn yn ailddatgan yr ymrwymiad i Gymru fod yn ddiwastraff erbyn 2050, sy’n golygu bod yr holl wastraff a gynhyrchir yn cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu fel adnodd, heb ei dirlenwi nac adennill ynni. Mae’n cynnwys y targedau allweddol canlynol:

§    Erbyn 2025: gostyngiad o 26% mewn gwastraff; dim gwastraff i safleoedd tirlenwi; gostyngiad o 50% mewn gwastraff bwyd y gellir ei osgoi ac ailgylchu 70%.

§    Erbyn 2030: gostyngiad o 33% mewn gwastraff a gostyngiad o 60% mewn gwastraff bwyd y gellir ei osgoi.

§    Erbyn 2050: Defnydd o adnoddau un blaned; dim gwastraff; a charbon net sero.

 

Dyma ddywed y cynllun ynghylch plastig untro:

Byddwn yn rhoi’r gorau’n raddol i ddefnyddio eitemau untro diangen, yn enwedig plastig. Fyddwn ni ddim yn anfon unrhyw blastig i safleoedd tirlenwi ac yn lleihau’r swm sy’n cael ei anfon i adfer ynni yn raddol. Byddwn yn cyflawni hyn gyda diwygiadau arloesol fel Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ar gyfer pecynnu, Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a thrwy osod gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar eitemau untro diangen.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr a Chynlluniau Dychwelyd Ernes yn ein erthygl ddiweddar.

2.3 Gwaith ymchwil Llywodraeth Cymru

Yn 2019 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith ymchwil er mwyn helpu i ddeall effeithiau posibl gwahardd eitemau plastig untro penodol. Roedd yr ymchwil yn amcangyfrif cyfeintiau pob cynnyrch a oedd yn cael ei werthu ac yn archwilio argaeledd a chost cynnyrch amgen di-blastig. Defnyddiodd yr astudiaeth y wybodaeth hon – ynghyd â chanfyddiadau ynghylch a oedd unrhyw blastig neu eitemau amgen yn cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru ai peidio – i amcangyfrif effeithiau economaidd posibl y cynigion ar weithgynhyrchwyr a busnesau yng Nghymru.

Daeth yr ymchwil i'r casgliad bod yna gostau ariannol posibl i weithgynhyrchwyr plastigau pe baent yn dewis creu’r un cynnyrch gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau. At hynny, roedd cost ariannol fechan bosibl i’r sector lletygarwch wrth brynu stoc o ddeunydiau amgen di-blastig, y canfuwyd eu bod ychydig yn ddrutach. Awgrymodd y gallai fod yn ofynnol i ddefnyddwyr, o ganlyniad, i dalu ychydig yn fwy am rai cynhyrchion bwyd neu ddiod sy’n cael eu bwyta ‘wrth fynd’ os yw manwerthwyr yn dewis peidio ag amsugno’r costau hyn. Fodd bynnag, canfu'r astudiaeth fod y manteision amgylcheddol a chymdeithasol yn fwy eang o lai o sbwriel yn gorbwyso'r costau hyn.

Nododd yr astudiaeth nifer gyfyngedig o fusnesau sy'n gweithgynhyrchu eitemau plastig untro perthnasol yng Nghymru. At hynny, nododd fanteision economaidd posibl i Gymru gyda chynnydd yng ngwerthiant cynhyrchion amgen, yn enwedig os oedd gweithgynhyrchwyr Cymru yn ymateb i'r galw am y rhain.

2.4 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Ym mis Gorffennaf 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar wahardd naw o eitemau plastig untro. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig cyflwyno is-ddeddfwriaeth i wahardd busnesau rhag darparu eitemau plastig untro penodol i ddefnyddwyr terfynol (‘end users’) yng Nghymru, ni waeth a yw’r busnesau hynny’n bwriadu codi tâl am yr eitemau o dan sylw.

Roedd yr eitemau arfaethedig yn cyd-fynd â'r rheini y cawsant eu cynnwys yn Erthygl 5 o Gyfarwyddeb (UE) 2019/904, sef Cyfarwyddeb Plastig Untro yr UE:

§    Eitem 1 – ffyn cotwm â choesyn plastig;

§    Eitem 2 – cytleri (gan gynnwys cyllyll, ffyrc, llwyau, sporks a chopsticks);

§    Eitem 3 – platiau (gan gynnwys hambyrddau, platiau, powlenni a phlatiau papur wedi'u lamineiddio);

§    Eitem 4 – troyddion diodydd;

§    Eitem 5 – gwellt;

§    Eitem 6 – ffyn ar gyfer balwnau;

§    Eitem 7 – cynhwysyddion bwyd wedi'u gwneud o bolystyren estynedig;

§    Eitem 8 – cwpanau ar gyfer diodydd wedi'u gwneud o bolystyren estynedig; ac

§    Eitem 9 – cynhyrchion ocso-ddiraddiadwy (cynhyrchion plastig sy'n dadelfennu trwy ocsidiad yn ficro-darnau). Mae enghreifftiau yn cynnwys bagiau siopa, ffilmiau tomwellt amaethyddol ac, yn fwyaf diweddar, rhai poteli plastig.

2.5 Dulliau gweithredu a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU

Lloegr

Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Hydref 2018 ar gynigion i wahardd dosbarthu a/neu werthu gwellt plastig, ffyn cotwm â choesyn plastig a throwyr diodydd plastig yn Lloegr, cyflwynodd Llywodraeth y DU Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwellt Plastig, Ffyn Cotwm a Throwyr) (Lloegr) 2020, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2020.

Ym mis Tachwedd 2021, gwnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori ar gynigion i gyflwyno gwaharddiadau ar gyfer cytleri untro, platiau, ffyn balwnau, cwpanau polystyren estynedig ac allwthiol, cynhwysyddion diodydd a chynwysyddion bwyd. Lansiwyd galwad am dystiolaeth hefyd, yn ceisio barn ar sut i symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchion untro mewn perthynas â weips, hidlwyr tybaco, bagiau bach (‘saches’) a chwpanau untro.

Yr Alban

Ym mis Hydref 2019, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Ffyn Cotwm) (Yr Alban) 2019 i wahardd gwerthu a gweithgynhyrchu blagur cotwm untro yn yr Alban.

Yn dilyn ymgynghoriad ar gynigion i wahardd gwerthu a gweithgynhyrchu gwellt untro, troyddion, platiau, cytleri, cynhwysyddion bwyd a diod polystyren estynedig, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Yr Alban) 2021. Daeth hyn i rym ym mis Mehefin 2022.

Gogledd Iwerddon

Ar 14 Ionawr 2022, daeth ymgynghoriad wyth wythnos yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar leihau cwpanau diod untro a chynwysyddion bwyd, i ben. Mae cynnydd yn yr arfaeth.

2.6 Goblygiadau Deddf y Farchnad Fewnol

Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 (‘y Ddeddf’) yn cyflwyno ansicrwydd ynghylch a yw gweinyddiaethau datganoledig yn gallu cyflwyno gwaharddiadau ar gynhyrchion y caniateir eu gwerthu mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae’r Ddeddf yn gosod ‘egwyddorion newydd at ddibenion mynediad at y farchnad’ sy’n cymryd yn ganiataol y dylai (yn gyffredinol) nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau proffesiynol y gellir eu gwerthu neu eu cydnabod mewn un rhan o’r DU allu cael eu gwerthu neu eu cydnabod mewn unrhyw ran arall, ni waeth beth y mae’r Gyfraith yn y rhan arall honno o’r DU yn ei ddweud.

Mae ein herthygl ddiweddar, ' Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020: pa wahaniaeth y mae’n ei wneud?' yn edrych yn fanylach ar yr egwyddorion.

Mae adrannau 10 a 18 o'r Ddeddf yn caniatáu i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau i greu eithriadau o’r egwyddorion. Yn dilyn cais gan Lywodraeth yr Alban, ym mis Ionawr 2022 cadarnhawyd y byddai  Llywodraeth y DU yn eithrio'r cynhyrchion a gwmpesir gan waharddiad Llywodraeth yr Alban.

Mae Rheoliadau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (Eithriadau o Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad: Plastigau Untro) 2022 yn dileu’r cyfyngiad y byddai’r Ddeddf yn ei roi ar restr benodol o blastigau untro. Fodd bynnag, mae Bil Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynhyrchion neu eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr hon, sef bagiau siopa (gyda rhai eithriadau) a’r holl gynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Ni fyddai’r naill gyfyngiad na’r llall wedi’u cwmpasu gan yr eithriad i’r Ddeddf ac felly gallent barhau i gael eu cyflenwi yng Nghymru pe baent yn cael eu gweithgynhyrchu mewn rhannau eraill o’r DU neu eu mewnforio i rannau eraill o’r DU.

Yn ôl y Prif Weinidog bydd deddfwriaeth plastig untro yng Nghymru  yn darparu “enghraifft ymarferol” i gefnogi her gyfreithiol barhaus Llywodraeth Cymru i Ddeddf y Farchnad Fewnol.

 

3.         Diben y Bil a’r effaith y bwriadwyd iddo’i chael

Mae’r Bil yn cynnig gwahardd neu gyfyngu ar y cyflenwad i ddefnyddwyr o nifer o gynhyrchion plastig untro diangen sy’n cael eu taflu fel sbwriel yng Nghymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y ddeddfwriaeth yn helpu i gyflymu’r newid yn ymddygiad defnyddwyr oddi wrth gynhyrchion untro tuag at fwy o ailddefnyddio, a bydd yn annog busnesau yng Nghymru i arwain y ffordd wrth ddatblygu dewisiadau amgen mwy cynaliadwy. Amlinellir ei amcan yn y Memorandwm Esboniadol:

This Bill will support action to tackle the climate and nature emergencies. It will also contribute to our long-term ambitions of phasing out unnecessary single-use products, especially plastic, and sending zero plastic to landfill. Whilst we recognise some uses of disposable plastic are essential, such as those used in medical settings, we want to see a greater shift to more sustainable reusable products. Where single-use products are needed, they should be designed in a way which minimises impacts on the environment.

Mae’r Bil yn ceisio ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim), y cynhyrchion plastig untro a ganlyn sy’n cael eu taflu ymaith yn gyffredin ac yn ddiangen, i ddefnyddiwr yng Nghymru:

§  Platiau;

§  cytleri;

§  troyddion diodydd;

§  gwellt yfed (gan gynnwys gwellt sydd ynghlwm);

§  cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren;

§  cynhwysyddion cludfwyd (neu ‘takeaway’) wedi'u gwneud o bolystyren;

§  caeadau cynhwysyddion cwpanau a chludfwyd wedi'u gwneud o bolystyren;

§  ffyn cotwm â choesyn plastig;

§  ffyn ar gyfer balwnau;

§  cynhyrchion ocso-ddiraddadwy; a

§  bagiau siopa untro plastig.

Mae hefyd yn cynnig:

Fod y trosedd uchod yn drosedd ddiannod ac felly y gellir ei rhoi ar brawf mewn Llysoedd Ynadon. Os ceir person yn euog o drosedd, gall y Llys osod dirwy ddiderfyn.

Pŵer i wneud rheoliadau, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ychwanegu neu ddileu cynnyrch plastig untro at y rhestr o gynhyrchion sy'n ddarostyngedig i'r drosedd o gyflenwi (neu gynnig cyflenwi).

Gofyniad ar Weinidogion Cymru i adrodd o dan adran 79(2) o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar yr ystyriaeth y maent wedi’i rhoi i ba un a ddylid arfer y pŵer i wneud rheoliadau:

-       Er mwyn ychwanegu cynhyrchion pellach at y rhestr o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig yn Atodlen 1 i’r Bil sy’n ddarostyngedig i’r drosedd o gyflenwi (neu gynnig cyflenwi); ac

-       er mwyn gwneud unrhyw ddiwygiad arfaethedig i’r eithriadau a restrir yn Atodlen 1 i’r Bil.

Rhoi pwerau mynediad ac ymchwiliad i swyddogion awdurdodau lleol, ynghyd â chynnal pryniannau prawf er mwyn ymchwilio i weld a oes trosedd wedi'i chyflawni.

Ei gwneud yn drosedd i rwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol sy’n arfer ei swyddogaethau gorfodi o dan y Bil.

Pŵer i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer sancsiynau sifil i’w gwneud mewn perthynas â throseddau a grëwyd gan y Bil.

 

 

 

 

 

4.         Crynodeb o brif ddarpariaethau'r Bil

4.1 Gwahardd cyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro

Mae Adran 1 yn diffinio cysyniadau allweddol “untro”, “cynnyrch plastig” a “plastig”.

Mae “cynnyrch plastig” yn gynnyrch y mae ei holl brif gydrannau strwythurol, neu unrhyw un neu ragor o’r prif gydrannau hynny, wedi ei wneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu sydd â leinin neu araen sydd wedi ei gwneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

 

Ystyr “untro”, mewn perthynas â chynnyrch plastig, yw cynnyrch nad yw wedi ei ddylunio – neu ei weithgynhyrchu i’w ddefnyddio – at y diben y’i dyluniwyd neu y’i gweithgynhyrchwyd ar ei gyfer, fwy nag unwaith (neu ar fwy nag un achlysur) cyn ei waredu. Mae’r adran hon hefyd yn egluro mai dim ond bagiau siopa wedi’u gwneud o ffilm blastig o ddim mwy na 49 micron o drwch sy’n cael eu hystyried yn fagiau siopa untro at ddibenion y Bil. 

Ystyr “plastig” yw deunydd ar ffurf polymer, ac mae’n cynnwys deunydd ar ffurf polymer sydd wedi ei gymysgu ag ychwanegion neu sydd â sylweddau eraill wedi eu hychwanegu ato.

Mae Adran 2 yn amlinellu eitemau cynhyrchion plastig untro gwaharddedig, gan gyfeirio at y tabl ym mharagraff 1 o atodlen y Bil. Mae cynnyrch plastig untro wedi ei wahardd os yw’n gynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl ac os nad oes esemptiad yng ngholofn 2.

Cynnyrch

Esemptiad

Cynhyrchion ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod

Cwpanau

Cwpan nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog

Cytleri

 

Troyddion diodydd

 

Caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd

Caead nad yw wedi ei wneud o bolystyren

Gwellt

Esemptiad 1

Mewn cysylltiad a gwerthu gwelltyn gan berson (“P”),

pan fo —

(a)   P yn berson sy’n cynnal yn gyfreithlon, neu sy’n ymwneud â chynnal yn gyfreithlon, fusnes fferyllfa fanwerthu,

(b)  pan na fo P yn fferyllydd, fod yr unigolyn sy’n gwerthu’r gwelltyn ar ran P yn fferyllydd neu’n unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd, a

(c)   y person y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod ef angen y gwelltyn, neu fod person y byddant yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.

Esemptiad 2

Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r person y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo (“A”) —

 

(a)   yng ngofal P, a

(b)  pan fo P yn credu yn rhesymol fod angen y gwelltyn ar A am resymau iechyd neu anabledd.

Esemptiad 3

Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r person y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan i P ei fod ef angen y gwelltyn, neu fod person arall y bydd y person yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.

 

 

 

Esemptiad 4

Gwelltyn a gyflenwir am bwrpas sy’n gysylltiedig â darparu gofal meddygol neu driniaeth feddygol.

Platiau

 

Cynhwysyddion cludfwyd

Cynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog.

Cynhyrchion eraill

Ffyn balwnau

 

Bagiau siopa

Esemptiad 1

Bag siopa —

(a)   sydd ag uchafswm dimensiynau o 125mm (uchder) x 125mm (lled),

(b)  nad oes ganddo gwysed, ac

(c)   nad oes ganddo handlenni.

 

Esemptiad 2

Bag siopa, o faint sy’n gymesur â maint neu natur yr eitemau sydd i’w cludo, a gyflenwir at ddiben cludo eitemau o’r disgrifiad a ganlyn —

(a)   pysgod amrwd, cig amrwd neu ddofednod amrwd (gan gynnwys cynhyrchion pysgod amrwd, cynhyrchion cig amrwd neu gynhyrchion dofednod amrwd) i’w bwyta gan bobl neu anifeiliaid (pa un a yw’r eitem wedi ei becynnu ai peidio);

(b)  unrhyw fwyd arall i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid sydd heb ei becynnu;

(c)   bwyd i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid (i’r graddau nad yw’r eitem yn dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a ddarperir am ddim;

(d)  cynhyrchion meddyginiaethol neu gyfarpar rhestredig a gyflenwir yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan broffesiynolyn iechyd;

(e)   meddyginiaeth fferyllol (pan na fo wedi ei chyflenwi yn unol â phresgripsiwn a ddyroddwyd gan broffesiynolyn iechyd);

(f)    hadau, bylbiau, cormau neu risomau heb eu pecynnu;

(g)  nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;

(h)  llafnau neu eitemau â llafnau heb eu pecynnu;

(i)    eitemau heb eu pecynnu a wnaed o bapur;

(j)    cynhyrchion hylendid personol a ddarperir am ddim;

(k)   creaduriaid dyfrol byw mewn dŵr.

Esemptiad 3

Bag siopa a gyflenwir at ddiben cludo alcohol neu dybaco mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982 (p. 36).

 

Ffyn cotwm             

 

Cynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy

Unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy —

(a)   pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a

(b)  pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.

 

 * Mae “ocso-diraddio” yn cael ei ddiffinio gan CEN (Awdurdod Safonau Ewropeaidd) yn TR15351 fel diraddio a nodir fel un sy’n deillio o holltiad ocsidiol macromoleciwlau. Mae hyn yn disgrifio plastigion cyffredin, sy'n diraddio trwy ocsidiad o dan ddylanwad golau a gwres yn yr amgylchedd agored ac yn creu microblastigau, ond nad ydynt yn dod yn fioddiraddadwy ac eithrio dros gyfnod hir iawn o amser.

Mae Adran 3 yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr o blastigau untro gwaharddedig drwy ychwanegu, dileu neu ddiwygio cynnyrch o golofn 1, esemptiad o golofn 2, neu ddiffiniad.

Mae Adran 4 yn manylu ar ddyletswyddau sy'n ymwneud â datblygu cynaliadwy ac adrodd mewn perthynas â'r pwerau i ddiwygio. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i Weinidogion Cymru, wrth benderfynu a ddylid gwneud y gwelliannau yn adran 3, i ddwyn i ystyriaeth eu dyletswydd i hybu a chyflawni datblygu cynaliadwy. Yn yr adroddiad y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ei gyhoeddi o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid iddyn nhw nodi gwybodaeth am eu hystyriaeth ynghylch pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3.

Mae’r Bil yn sôn yn benodol am ychwanegu cynhyrchion at golofn 1, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weips, a dileu neu ddiwygio esemptiad o golofn 2, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i esemptiad mewn perthynas â chwpanau, cynhwysyddion cludfwyd a chaeadau nad ydynt wedi eu gwneud o bolystyren.

 

4.2 Trosedd

Mae Adran 5 yn creu y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig. Mae'n rhestru disgrifiadau o berson na chaniateir iddo gyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr yng Nghymru (e.e. cyrff corfforaethol/unig fasnachwyr). At hynny, mae’n disgrifio ystyr cyflenwi – yn yr achos hwn yn gwerthu’r cynnyrch, yn darparu’r cynnyrch am ddim, neu’n cynnig gwerthu’r cynnyrch neu ei ddarparu am ddim. Mae'n cynnwys disgrifiad o bersonau “atebol”, er enghraifft cyflogeion neu asiantau.

Mae Adran 6 yn darparu fod person sy’n euog o drosedd o dan adran 5 yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

4.3 Gorfodaeth

Mae Adran 7 yn ymwneud â chamau gorfodi gan awdurdod lleol. Bydd gan awdurdodau lleol bwerau i ymchwilio i gwynion, dwyn erlyniadau a chymryd unrhyw gamau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o dan adran 5 yn ei ardal.

Mae Adran 8 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i wneud pryniannau prawf.

Mae Adrannau 9 i 12 ymwneud â phŵer mynediad. Dan Adran 9, caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre ar unrhyw adeg resymol os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni. Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd. Ni chaiff fynd i mewn i'r fangre trwy rym, a rhaid iddo ddangos tystiolaeth ddogfennol os gofynnir iddo wneud hynny. Mae Adran 10 yn ymwneud â phŵer mynediad ar gyfer anheddau. Mae’n darparu y caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant i alluogi swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd o dan amgylchiadau penodol. Caniateir cael mynediad drwy rym os oes angen.

Mae Adran 11 yn delio â phŵer mynediad o dan amgylchiadau eraill pan fo gwarant yn angenrheidiol Os oes angen mynediad i fangre na ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd (yr ymdrinnir ag ef o dan Adran 10). Mae’r Adran hon yn galluogi Ynad Heddwch i ddyroddi gwarant ar gyfer mynediad, trwy rym os oes angen. Rhaid i’r fangre gael ei defnyddio at ddibenion busnes, neu ar gyfer busnes ac fel annedd.

Mae Adran 12 yn ymdrin â materion atodol yn ymwneud â phŵer mynediad. Caniateir i swyddog awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau ac offer eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

Mae Adran 13 yn ymwneud â phŵer arolygu. Mae'n rhoi pwerau i swyddogion awdurdodedig sy'n mynd i mewn i eiddo i wneud pethau amrywiol i ganfod a yw trosedd wedi'i chyflawni. Gall swyddogion cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre, ei gwneud yn ofynnol bod eitemau yn cael eu cyflwyno ar y safle, eu harchwilio, a chymryd samplau neu eitemau. Caiff y swyddog hefyd ofyn am wybodaeth a chymorth gan unrhyw berson ond nid yw’n ofynnol i’r person hwnnw ateb unrhyw gwestiynau na chyflwyno unrhyw ddogfen y byddai ganddo hawl i wrthod eu hateb neu ei chyflwyno yn ystod achos llys yng Nghymru a Lloegr.

Mae Adran 14 yn amlinellu'r drosedd o rwystro. Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig rhag arfer ei swyddogaethau, neu’n methu â darparu i’r swyddog gyfleusterau y mae eu hangen yn rhesymol o dan adran 13. Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Mae Adran 15 yn ymwneud ag eiddo a gedwir: apelau. Gall person â buddiant (yn y cyd-destun hwn, ystyr “buddiant” yw hawl gyfreithiol) mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig yn mynd ag ef o’r fangre wneud cais i lys ynadon am orchymyn i ryddhau’r eiddo.

Mae Adran 16 yn darparu hawl i’r person y manylir arno yn Adran 15 wneud cais i lys ynadon am iawndal am eiddo a gedwir.

Mae Adran 17 yn galluogi rheoliadau sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil mewn perthynas â throseddau Adran 5.

Mae Adran 18 yn amlinellu, ar gyfer troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill, bod achos i’w ddwyn yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas nad yw yn enwau unrhyw un o’i haelodau. Mae dirwyon hefyd i'w talu allan o asedau'r bartneriaeth neu gronfeydd y gymdeithas.

Mae Adran 19 yn delio ag atebolrwydd troseddol uwch swyddogion. Pan gyflawnir trosedd o dan y Bil gan gorff corfforaethol, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) gall unigolion sy’n dal swyddi cyfrifol o fewn y corff perthnasol hefyd fod yn atebol yn droseddol.

4.4 Cyffredinol

Mae Adran 20 yn darparu ystyron ac yn cyfeirio at ystyron ar gyfer termau a ddefnyddir yn y Bil.

Mae Adran 21 yn esbonio sut y bydd pwerau i wneud rheoliadau yn cael eu harfer, ac yn nodi'r weithdrefn i'w dilyn.

Mae Adran 22 yn nodi pa ddarpariaethau sy’n dod i rym drannoeth dyddiad y Cydsyniad Brenhinol (Adrannau 3, 4, 17, 21, 22, 23) ac sy’n gofyn am orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru (y gweddill).

4.5 Atodlen

Cyflwynir yr Atodlen gan Adran 2 ac mae’n cynnwys tabl sy’n nodi’r cynhyrchion plastig untro gwaharddedig o dan y Bil.

Yn bennaf, gwaherddir cynnyrch a restrir yng ngholofn 1 waeth pa fath o blastig a ddefnyddir. Yr unig eithriadau yw cynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy. Gwaherddir y rhain oherwydd y math o blastig a ddefnyddir yn hytrach na'r math o gynnyrch.

Mae colofn 2 o'r tabl yn darparu ar gyfer eithriadau sy'n gymwys mewn perthynas â math penodol o gynnyrch neu at y diben y cyflenwir y cynnyrch ar ei gyfer. Er enghraifft, mae colofn 2 yn cynnwys eithriadau ar gyfer unrhyw gwpan neu gynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog. Ni fydd unrhyw berson sy’n cyflenwi’r cynhyrchion yn unol ag eithriadau o’r fath yn cyflawni trosedd o dan adran 5. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan Adran 3 i wneud rheoliadau i ddiwygio’r eithriadau hyn yn y dyfodol, er enghraifft i wahardd cwpanau neu gynhwysyddion cludfwyd sydd wedi’u gwneud o fathau eraill o blastig.

 

 

 

 

 

 

5.        Barn rhanddeiliaid

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r crynodeb o ymatebion i’w ymgynghoriad ar 12 Awst 2022. Daeth 3581 o ymatebion i law yn sgil yr ymgynghoriad.

Mae'n bwysig nodi mai dim ond barn ar wahardd naw o eitemau plastig untro a geisiwyd yn yr ymgynghoriad. Nid oedd caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynhwysyddion cludfwyd, a bagiau siopa untro yn rhan o'r ymgynghoriad.  Cawsant eu hychwanegu ar ôl yr ymgynghoriad. At hynny, gan fod yr ymgynghoriad yn ymwneud â chyflwyno rheoliadau yn hytrach na deddfwriaeth sylfaenol mae’r adrannau isod yn cyfeirio at reoliadau yn hytrach na Bil.

5.1 Trosolwg

Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dangos lefel sylweddol o gefnogaeth i waharddiad ar yr holl eitemau plastig untro a restrir yn yr ymgynghoriad. Lle cafwyd rheswm gan ymatebwyr, roedd hyn yn bennaf ar seiliau amgylcheddol a phryderon ynghylch effeithiau eitemau ar ôl iddynt gael eu taflu fel sbwriel oherwydd dyfalbarhad plastig yn yr amgylchedd.

Cododd nifer fach o ymatebwyr bryderon ynghylch effeithiau negyddol posibl yn sgil gwaharddiad. Ymhlith y rheini roedd y sectorau gweithgynhyrchu, y byd academaidd, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a sector y llywodraeth. Amlygodd y rhain yr angen i gefnogi gweithredu o'r fath gydag astudiaethau dadansoddi cylch bywyd i sicrhau nad yw unrhyw deunyddiau amgen yn cael mwy o effaith ar yr amgylchedd na phlastig.

Gwellt

Ar gyfer gwellt, roedd y pryderon yn canolbwyntio'n bennaf ar ddefnyddioldeb a/neu gost deunyddiau amgen neu wellt y gellir eu hailddefnyddio. Er bod rhai yn gwrthwynebu unrhyw fath o waharddiad neu gyfyngiad ar wellt plastig untro, cyfeiriodd eraill at yr angen am eithriadau, gan gynnwys eithrio gwellt meddygol.

Cynhwysyddion bwyd a chwpanau polystyren ymledol ac allwthiol

Tynnodd ymatebwyr o’r sector gweithgynhyrchu sylw at gynnydd yn y galw am gynhyrchion plastig untro mewn lleoliadau gofal iechyd o ganlyniad i bandemig y Coronafeirws. Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch a allai deunyddiau amgen beri risg i fwyd neu ddiogelwch defnyddwyr ac awgrymwyd bod angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn. Roedd pryderon yn cynnwys ystyried priodweddau thermol ac insiwleiddio polystyren ymledol ac allwthiol a'i gost gymharol rad o'i gymharu â deunyddiau amgen. Codwyd yr olaf mewn perthynas â'r effaith ariannol bosibl ar fusnesau bwyd annibynnol llai o faint, neu eu cwsmeriaid.

Platiau a chytleri

Yn yr un modd â chynwysyddion bwyd a diod, awgrymwyd bod defnydd cynyddol o’r eitemau hyn yn ystod y pandemig yn rheswm dros beidio â’u gwahardd. Tynnodd grwpiau anabledd sylw at effeithiau negyddol posibl ar unigolion sy'n dibynnu ar y mathau hyn o eitemau ar hyn o bryd.

Cynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy

Yn gyffredinol, roedd lefel uchel o gefnogaeth i gynnwys eitemau wedi'u gwneud o'r deunydd hwn oherwydd eu bod yn cyflymu'r broses o greu microblastigau. Awgrymodd nifer o ymatebwyr fod angen mwy o eglurhad ar y diffiniadau a ddefnyddir i labelu rhai cynhyrchion – er enghraifft, ocso-ddiraddadwy, compostadwy ac ocso-bioddiraddadwy – er mwyn helpu busnesau a defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus.

5.2 Cydbwysedd rhwng manteision ac effeithiau cymdeithasol/amgylcheddol

Roedd y crynodeb yn amlinellu bod yna gytundeb clir y byddai’r rheoliadau arfaethedig yn helpu i gyfyngu ar effaith amgylcheddol cynhyrchion plastig untro yng Nghymru ac y byddent o fantais i’r gymdeithas gyfan. Cyfeiriwyd yn aml at gyflwyno’r tâl am fagiau siopa fel enghraifft o bolisi a arweiniodd at fanteision amgylcheddol hirdymor, er gwaetha’r tarfu yn y tymor byr i fanwerthwyr a’r cyhoedd. Teimlai eraill yn teimlo bod argaeledd dewisiadau eraill yn golygu mai bach fyddai unrhyw anghyfleustra.

Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at yr angen am fesurau newid ymddygiad wedi'u targedu er mwyn helpu i leihau sbwriel, gan nodi y byddai hynny’n dal i ddigwydd waeth beth fo'r deunydd.

At hynny, codwyd pryderon y byddai defnyddwyr Cymru yn y pen draw yn talu mwy pe bai gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr yn trosglwyddo unrhyw gostau drwy gynyddu prisiau’r nwyddau yr oeddent yn eu gwerthu, yn hytrach na’u hamsugno. Roedd pryderon hefyd am yr effeithiau economaidd posibl ar y sectorau gweithgynhyrchu, dargadw a lletygarwch pe bai cynhyrchion amgen yn ddrutach yn ystod cyfnod sydd eisoes yn heriol.

5.3 Manteision ac effeithiau ar fusnesau

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn bod y rheoliadau'n cynnig y potensial i fusnesau Cymru fuddsoddi a gweithgynhyrchu dewisiadau amgen i'r cynhyrchion sy'n cael eu gwahardd. Fodd bynnag, rhybuddiodd y sectorau gweithgynhyrchu plastig a phecynnu bod datblygu atebion newydd ac arloesol yn aml yn gostus. Awgrymodd eraill y byddai angen i fuddsoddiadau o’r fath gael cymorth ariannol gan y llywodraeth neu gamau rheoleiddio ychwanegol i atal cynhyrchion rhatach rhag cael eu mewnforio i Gymru.

Mynegwyd pryderon gan rai ymatebwyr ynghylch costau amgylcheddol posibl cynhyrchion amgen. Y rheswm dros hynny oedd y potensial i'r deunyddiau hyn fod â chostau ynni cyfartal – neu mewn rhai achosion yn uwch – ar gyfer cynhyrchu, cludo ac ailgylchu.

Thema gyffredin yn yr ymatebion oedd y gred y gall busnesau Cymreig addasu ac arloesi i’r rheoliadau, cyn belled â’u bod yn glir, yn gyson ac wedi’u cyhoeddi o fewn amserlen resymol.

5.4 Cynnwys plastigau ocso-ddiraddiadwy

Amlygodd y rhan fwyaf o’r ymatebion i’r cwestiwn hwn bryderon ynghylch defnyddio plastigion sydd wedi’u cynllunio i dorri’n ddarnau llai (micro-blastigau) a’r effeithiau posibl ar fywyd dyfrol, ecosystemau eraill, mynd i mewn i’r gadwyn fwyd a’r effeithiau ar iechyd pobl.

5.5 Esemptiadau

Roedd cefnogaeth gyffredinol i gynnwys esemptiadau. Cytunodd yr ymatebwyr y byddai gwaharddiad ar wellt untro yn arwain at benderfyniad i ddefnyddio dewisiadau amgen, i'r rhan fwyaf o unigolion. Mynegwyd pryderon na fyddai gwellt yfed amgen yn addas ar gyfer rhai o blith y boblogaeth – yn enwedig pobl hŷn neu anabl – am nifer o resymau, gan gynnwys hyblygrwydd a risg o anafiadau. Mynegodd eraill bryder y byddai rhai gweithgynhyrchwyr a busnesau yn gweld unrhyw esemptiad fel bwlch posibl yn y gyfraith ac yn parhau i gynhyrchu'r eitemau, gan danseilio'r nod o leihau eu defnydd.

O’r ymatebwyr hynny a oedd o blaid esemptiadau, roedd yn well gan y mwyafrif eu bod yn cael eu cadw ar eu hisaf, gan ystyried mai lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol oedd y ffocws mwyaf priodol.

Gofynnwyd am eglurder ynghylch sut y byddai'r cynigion a'r esemptiadau’n berthnasol i siopa ar-lein a nwyddau a fewnforiwyd. Roedd cysondeb â gweinyddiaethau eraill y DU hefyd yn cael ei ystyried yn bwysig er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn deall pa eitemau oedd ar gael a sut y gellid cael gafael arnynt pe bai angen.

Ychydig iawn o ymatebwyr a awgrymodd esemptiadau’r tu hwnt i'r rheini a nodwyd yn yr ymgynghoriad. Roedd yr awgrymiadau ychwanegol yn canolbwyntio'n bennaf ar gynhwysyddion bwyd polystyren ymledol ac allwthiol, yn ogystal â chwpanau diod a ffyn cotwm. O ran y cyntaf, daeth cefnogaeth ar gyfer eithriadau yn bennaf gan y sectorau gweithgynhyrchu a phecynnu bwyd, wnaeth awgrymu moratoriwm dwy flynedd i ganiatáu i fusnesau bach addasu a lleihau effeithiau economaidd posibl.

5.6 Amserlenni ar gyfer gweithredu

Yr amserlenni a nodwyd yn yr ymgynghoriad oedd i’r rheoliadau gael eu cyflwyno yn yr hydref, 2021. Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebwyr o blaid hyn. Fodd bynnag, dadleuodd rhai fod angen gweithredu ar unwaith, ac awgrymodd eraill y byddai angen mwy o amser ar fusnesau i addasu.

5.7 Sancsiynau sifil

Roedd cefnogaeth glir i ddefnyddio sancsiynau sifil, gyda llawer yn cytuno y byddai hynny’n darparu ymateb cymesur i unrhyw achosion o dorri’r rheoliadau. Teimlai nifer fach o ymatebwyr fod y dull hwn yn rhy drugarog ac y byddai angen sancsiynau troseddol/dirwyon mawr i sicrhau cydymffurfiaeth.                    

5.8 Camau gorfodi gan awdurdodau lleol

Roedd cefnogaeth eang i gamau gorfodi gan awdurdodau lleol – ond roedd hynny’n aml yn cynnwys pryderon ynghylch pwysau ar adnoddau presennol awdurdodau lleol. Ymhlith pryderon eraill roedd y posibilrwydd o anghysondeb rhwng awdurdodau lleol o ran sut y câi’r rheoliadau eu gorfodi, ac argymhellodd nifer fach o ymatebwyr ddull gweithredu Cymru gyfan ar gyfer gorfodi.

5.9 Cynnwys weips

Roedd cefnogaeth gref iawn i gynnwys weips yn y cynigion, ac er bod y farn yn amrywio ar yr amseriad, awgrymodd nifer fawr y dylid eu cynnwys yn y cam gweithredu cyntaf. Awgrymodd rhai ymatebwyr strategaethau amgen a fyddai’n caniatáu i weips barhau i gael eu gwerthu, gan gynnwys:

§    Cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer weips;

§    treth ar gynhyrchwyr am bob weip a gynhyrchir, a fyddai'n cael ei glustnodi i fynd i’r afael â materion yn y system dŵr gwastraff;

§    mwy o addysg a labelu clir i’r perwyl na ddylid fflysio’r eitemau hyn; a

§    chaniatáu gwerthu weips sy'n bioddiraddio o fewn terfyn amser penodol.

5.10 Eitemau eraill i'w cynnwys

Roedd cefnogaeth i symud i Gynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer poteli a chaniau diodydd, ac awgrymwyd nifer o eitemau ychwanegol y gellid cymryd camau gweithredu yn eu cylch, gan gynnwys:

§    Raseli untro;

§    deunydd pacio ffrwythau a llysiau;

§    bagiau bach sawsiau cludfwyd/untro;

§    gliter, balwnau, conffeti, baneri ac eitemau addurnol tebyg dros dro;

§    bagiau untro a “bagiau am oes” plastig;

§    bagiau te a phodiau coffi;

§    cwpanau coffi cludfwyd gyda leinin plastig;

§    cewynnau untro; a

§    bonion sigaréts plastig.

5.11 Y Gymraeg

O’r 180 o ymatebwyr i’r cwestiwn hwn yn yr ymgynghoriad, nid oedd y mwyafrif yn gallu nodi unrhyw effeithiau andwyol y byddai’r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg.

5.12 Materion ychwanegol

Mae’r pwyntiau ychwanegol a godwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn wedi’u crynhoi isod:

§    Bod y cynigion yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl gan fod angen mynd i’r afael ar fyrder â’r effeithiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â defnyddio plastig untro a gollwng sbwriel;

§    angen cysondeb o ran sut y byddai unrhyw reoliadau yn cael eu rhoi ar waith a'u gorfodi yng Nghymru. Nododd eraill y dylai’r cyfryw gysondeb ymestyn i wledydd eraill y DU (pe baent yn dilyn dull tebyg) er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl o ran polisi. At hynny, nododd un ymatebwr oblygiadau posibl Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU, ar y pryd, ar y cynigion;

§    ni ddylai Cymru aros am weddill y DU a dylai gymryd yr awenau, yn yr un modd â chodi tâl am fagiau siopa;

§    yr angen i gynnal asesiadau cylch bywyd ar gyfer deunyddiau amgen i wneud yn siŵr nad ydynt yn peri risg i'r amgylchedd;

§    bod y cynigion gael eu cynllunio a’u cyflawni fel rhan o ddull cyfannol, gan gynnwys ymyriadau ehangach fel trethi, Cynllun Dychwelyd Ernes a Chyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig.

6.        Asesiad Effaith Rheoleiddiol

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil yn rhan o'r Memorandwm Esboniadol. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn crynhoi costau a manteision y Bil.

Yr opsiwn a ffefrir: Opsiwn 2: Gwahardd neu gyfyngu ar y cyflenwad i ddefnyddwyr yng Nghymru os yw deg cynnyrch plastig untro a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy.

Cyfnod: Cyflwyniad

Cyfnod gwerthuso: 2020/21 – 2029/30

Blwyddyn sail brisiau: 2018/19

Cyfanswm y gost

Cyfanswm: £18.9m

Gwerth presennol: £15.9m

Cyfanswm manteision

Cyfanswm: £14.7m

Gwerth presennol: £12.0m

Gwerth Presennol Net: £-3.8mm

6.1 Cost gweinyddu

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi y bydd cost gweithredu gychwynnol o £500,000 i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu canllawiau dwyieithog, datblygu dulliau cyfathrebu i gefnogi’r broses o gyflwyno’r Bil, a chostau staff sy’n gysylltiedig â’i roi ar waith. At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld cost gylchol o £100,000 i staff sy’n rheoli’r broses o roi’r ddeddfwriaeth ar waith a datblygu polisi yn y maes hwn yn y dyfodol.

6.2 Arbedion costau

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi ei bod yn annhebygol y bydd arbedion costau o bwys i Lywodraeth Cymru. Mae’n awgrymu y byddai llai o ohebiaeth sy’n lobïo am waharddiad ar ôl cyflwyno’r Bil, ond efallai y bydd cynnydd cymesurol mewn gohebiaeth sy’n ymwneud â rhoi’r gwaharddiadau ar waith, neu’r cam nesaf o’r gwaith. Nid yw’n rhagdybio unrhyw arbedion gweinyddol o ganlyniad i gyflwyno’r ddeddfwriaeth.

6.3 Costau cydymffurfio

Yn ôl yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd cost o £14.1m NPV 2021-30, a gaiff ei rhannu rhwng busnesau a defnyddwyr. Mae hyn yn adlewyrchu’r gwahaniaeth rhwng pris eitemau plastig untro ac eitemau tebyg nad ydynt yn blastig. Hefyd, mae ymchwil Llywodraeth Cymru yn awgrymu y bydd busnesau yn wynebu costau cydymffurfio o £0.2m NPV 2021-30 i hyfforddi staff, newid cyflenwyr a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion newydd.  

6.4 Costau eraill

Amcangyfrifodd ymchwil Llywodraeth Cymru gost o £0.2m, Gwerth Presennol Net ar gyfer 2021-30, mewn perthynas â thrin gwastraff y cynhyrchion.

6.5 Costau ac anfanteision na chyfrifwyd

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi’r prif gostau deunyddiau – heb eu meintioli – sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu ac, i raddau, busnesau eraill, o ran newid i gynhyrchu deunyddiau heblaw plastig. Mae'n nodi nad yw hyn wedi'i feintioli oherwydd diffyg data am nifer y cynhyrchwyr yng Nghymru. Mae’n awgrymu, oherwydd bod cyfreithiau tebyg yn cael eu cyflwyno mewn mannau eraill, mae’n debygol bod busnesau wedi mynd i’r afael yn llawn neu eisoes yn mynd i’r costau hyn, wrth iddynt deilwra eu gwaith cynhyrchu yn ôl gofynion y marchnadoedd hyn.

6.6 Manteision

Nid yw'r manteision i'r amgylchedd, natur ac iechyd pobl – trwy leihau'r risg o broblemau ecosystem, hinsawdd ac iechyd dynol sy'n deillio o lygredd plastig – wedi'u hamcangyfrif, ac mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi nad yw'r rhain yn hysbys. Mae'n amlinellu mai lleihau'r cyfryw risgiau yw'r prif reswm dros gyflwyno'r gwaharddiadau. Mae’r manteision ar gyfer y cyfnod 2021 i 2030 wedi’u crynhoi fel a ganlyn:

§    £8.6m, Gwerth Presennol Net, mewn refeniw ar gyfer gweithgynhyrchu, os bydd y sector yn newid i ddeunydd di-blastig. Mae dadansoddiad Llywodraeth Cymru yn berthnasol i weithgynhyrchu yn y DU yn ei gyfanrwydd ac felly nid yw wedi’i gynnwys yng nghyfanswm y manteision;

§    £3.2m, Gwerth Presennol Net, mewn manteision i’r amgylchedd a’r gymdeithas o ran gostyngiadau mewn carbon a fasnachir a charbon anfasnachedig, a manteision o ran dad-amwynder sbwriel (£70m y flwyddyn mewn arian parod);

§    £0.2m, Gwerth Presennol Net, mewn costau glanhau is; a

§    £0.1m, Gwerth Presennol Net, mewn manteision i’r diwydiant pysgota.

Cyfrifir mai cyfanswm y manteision yw £14.7m (PV £12.0m).

Mae’r dadansoddiad economaidd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn seiliedig ar wahardd naw cynnyrch (fel yn yr ymgynghoriad gwreiddiol) yn hytrach na’r 11 sydd wedi’u cynnwys yn y Bil. Mae'n nodi bod effaith gwahardd yr eitemau ychwanegol wedi'i thrafod yn nhermau costau a manteision anariannol neu anfesurol.

6.7 Costau economaidd a busnes

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi bod y rhan fwyaf o'r effeithiau a drafodwyd gan randdeiliaid busnes yn ystod yr ymgynghoriad yn anecdotaidd heb unrhyw ffigurau nac amcangyfrifon penodol o gostau. Roedd y drafodaeth ar effeithiau economaidd yn canolbwyntio ar gostau i weithgynhyrchwyr, yn enwedig o ran gosod peiriannau newydd i gefnogi cynhyrchion amgen. Codwyd cwestiynau ynghylch sut y byddai'r busnes yn gallu ariannu'r newid hwn, a beth fyddai'r canlyniadau i ddefnyddwyr yn y pen draw.

Yn ôl rhanddeiliaid, gallai busnesau llai o faint gael eu heffeithio’n anghymesur gan waharddiad, gan fod y rhain yn gweithredu mewn marchnad hynod gystadleuol ac yn ymwybodol iawn o brisiau. At hynny, roedd pryderon y byddai grwpiau trydydd sector yn cael eu heffeithio’n anghymesur oherwydd adnoddau ariannol cyfyngedig. Er gwaethaf hyn, ar ôl pwyso a mesur, roeddent o'r farn y byddai'r effaith gyffredinol yn isel oherwydd gwahaniaethau bach mewn prisiau uned rhwng eitemau plastig a di-blastig fel ei gilydd, ac felly roeddent yn cefnogi'r gwaharddiadau.

6.8 Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol

Byddai costau gorfodi yn cael eu hysgwyddo gan awdurdodau lleol, a byddai costau rheoleiddio eraill yn cynnwys costau rheoli parhaus i’r Llywodraeth a chostau untro o gyfathrebu ynghylch y gwaharddiad a chyflwyno’r ddeddfwriaeth. At hynny, gallai fod costau cyfreithiol mewn achosion o ddiffyg cydymffurfio, a chostau hyfforddi ar gyfer staff awdurdodau lleol.

6.9 Adolygiad ôl-weithredu

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn amlinellu y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ôl-weithredu o’r ddeddfwriaeth heb fod yn hwyrach na phum mlynedd ar ôl iddi ddod i rym. Rhagwelir y bydd yr adolygiad yn asesu effeithiolrwydd y polisi o ran cyflawni ei amcanion a ganlyn:

§    Cefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.

§    Lleihau achosion o daflu cynhyrchion plastig untro fel sbwriel.

§    Y defnydd gwastraffus o adnoddau.

§    Addasu ymddygiad defnyddwyr i ddewisiadau mwy cynaliadwy.